Education

Welcome to my new education section, which provides resources and details of educational opportunities for primary, secondary and special schools in the Pontypridd constituency. I hope these pages will be useful to Head teachers and their teams as well as Governors, parents and pupils. Please contact my office on 01443 406400 if you have any questions.

Croeso i fy nhudalennau addysg newydd, sy’n darparu adnoddau a manylion o gyfleoedd addysgol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn etholaeth Pontypridd. Gobeithio y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i Benaethiaid a’u timau yn ogystal â Llywodraethwyr, rhieni a disgyblion. Mae croeso i chi gysylltu â’m swyddfa ar 01443 406400 os oes gennych unrhyw gwestiynau.

I try to meet with as many schools as possible when they visit the Assembly. There’s a wide range of free tours and educational opportunities available and there’s even help with the cost of coach travel for qualifying schools. Please watch this short video for more on Assembly visits and complete the form to book a visit for your school.

Rydw i’n ceisio cyfarfod â chymaint o ysgolion â phosib pan fyddant yn ymweld â’r Cynulliad. Mae yna amrywiaeth eang o deithiau am ddim a chyfleoedd addysgol ar gael ac mae yna gymorth i’w gael gyda chostau teithiau bws ar gyfer ysgolion cymwys. Gwyliwch y fideo byr hwn am ragor o wybodaeth am ymweliadau â’r Cynulliad a chofiwch lenwi’r ffurflen i archebu taith ar gyfer eich ysgol.

*
*
*
*
*
*
*

I’m very keen to engage with all local schools and are often invited to speak at assemblies, meet with school councils and take part in award ceremonies. Increasingly I’m invited to schools to discuss specific issues of interest (for example environment policy) and you can find more details of this below in the ‘Schools consultation’ section. If you’d like to invite me to visit your school, simply complete the form below.

Rydw i’n awyddus iawn i ymwneud â phob ysgol leol ac yn aml iawn byddaf yn cael gwahoddiad i siarad mewn gwasanaethau ysgol, i gyfarfod cynghorau ysgol ac i gymryd rhan mewn seremonïau gwobrwyo. Byddaf yn cael mwy a mwy o wahoddiadau i ysgolion i drafod materion o ddiddordeb penodol (er enghraifft materion amgylcheddol) a gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am hyn isod yn yr adran ‘Ymgynghoriad Ysgolion’. Os hoffech fy ngwahodd i ymweld â’ch ysgol, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen isod.

*
*
*
*
*
*
*

I provide a ‘schools pack’ to all pupils visiting the Assembly and you can download the pack here.

Rydw i’n darparu ‘pecyn ysgolion’ i bob disgybl sy’n ymweld â’r Cynulliad a gallwch lawrlwytho prif gynnwys y pecyn yma.

School-visits-presentation-folder-all-ages-BILINGUAL-JAN-2018

Increasingly I’m invited to schools to discuss specific local, national and international issues with pupils. Issues can range from Welsh Government policy on school uniforms to environmental issues. I’m always pleased to engage in this way and to forward the school’s views to the appropriate Minister or into any consultation process.

Byddaf yn cael fy ngwahodd fwyfwy i ysgolion i drafod materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol â disgyblion. Gall materion amrywio o bolisi Llywodraeth Cymru ar wisg ysgol i faterion amgylcheddol. Rydw i’n falch bob amser o ymgysylltu fel hyn ac i drosglwyddo safbwyntiau’r ysgol i’r Gweinidog priodol neu i unrhyw broses ymgynghori.

The Assembly provides a range of outreach opportunities, where Assembly staff visit you school. You can access more information on this page.

Mae’r Cynulliad yn darparu cyfleoedd allgymorth amrywiol, lle bydd staff y Cynulliad yn ymweld â’ch ysgol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen hon.