About Mick / Gwybodaeth am Mick

Mick Antoniw is the Welsh Labour & Cooperative Assembly Member for Pontypridd.

Mick lives in Tonyrefail and has served the people of Pontypridd and Taff Ely as their Assembly Member since 2011, having been re-elected in 2016.

Mick was brought up in Reading and moved to Wales to study law at Cardiff University in 1973. Mick speaks Ukrainian and is learning Welsh.

From 1977 to 1979, he was President of the National Union of Students (Wales) and shortly after, from 1981 to 1989 was a member of South Glamorgan County Council. His other roles include being a founder member of the Bevan Foundation, a former trustee of the Welsh Refugee Council and a Trustee of Beddau-based youth counselling charity Eye-to-eye. He is also a member of Welsh Labour Grassroots, the Co-operative Party, GMB and the Musicians’ Union.

Before being elected as an AM in 2011 Mick was a partner at Trade Union solicitors Thompsons, specialising in spinal and head injuries and corporate manslaughter. Mick is a visiting fellow of the University of South Wales and has lectured widely across Wales, the UK and internationally in the field of health and safety, corporate accountability and law and constitutional reform.

During the fourth Assembly (2011 – 2016) Mick sat on the Assembly’s Health, Enterprise and Business and Environment and Sustainability Committees, and was Chair of the Standards of Conduct Committee.

From 2012 – 2015 Mick represented Wales on the European Union Committee of the Regions where he was also appointed to its EU task force on Ukraine.

In June 2016 Mick was appointed Counsel General for Wales. As the Welsh Government’s Law Officer, he was the Welsh Government’s chief legal advisor and represents it in the courts.

Mick is currently a backbench AM and Chair of the Assembly’s Constitutional and Legal Affairs Committee.

 

Mick Antoniw yw Aelod Cynulliad Llafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol dros Bontypridd.

Mae Mick yn byw yn Nhonyrefail ac wedi gwasanaethu pobl Pontypridd a Thaf Elái fel eu Haelod Cynulliad ers 2011, gan gael ei ailethol yn 2016.

Cafodd Mick ei fagu yn Reading, gan symud i Gymru i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1973. Mae Mick yn siarad Wcreineg ac yn dysgu Cymraeg.

Rhwng 1977 a 1979, fe oedd Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, a rhwng 1981 a 1989, roedd yn aelod o Gyngor Sir De Morgannwg. Mae ei rolau eraill yn cynnwys bod yn un o sylfaenwyr Sefydliad Bevan, yn gyn-ymddiriedolwr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn Ymddiriedolwr i’r elusen cynghori ieuenctid, Eye-to-eye, ym Meddau. Mae hefyd yn aelod o sefydliad Gwreiddiau Llafur Cymru, y blaid Gydweithredol, y GMB ac Undeb y Cerddorion.

Cyn cael ei ethol yn AC yn 2011, roedd Mick yn bartner yn Thompsons, cwmni cyfreithwyr ym maes Undebau Llafur, yn arbenigo mewn anafiadau i’r asgwrn cefn a’r pen a dynladdiad corfforaethol. Mae’n gymrawd gwadd ym Mhrifysgol De Cymru ac mae wedi darlithio’n eang ledled Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol ym meysydd iechyd a diogelwch, atebolrwydd corfforaethol a diwygio’r gyfraith a diwygio cyfansoddiadol.

Yn ystod y pedwerydd Cynulliad (2011 – 2016), bu Mick yn aelod o Bwyllgor Iechyd, Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad, a fe oedd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Rhwng 2012 a 2015, bu Mick yn cynrychioli Cymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd, a chafodd ei benodi i dasglu’r UE ar yr Ukrain.

Ym mis Mehefin 2016, cafodd Mick ei benodi’n Gwnsler Cyffredinol Cymru. Fel Swyddog y Gyfraith Llywodraeth Cymru, fe oedd prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru ac mae’n ei chynrychioli yn y llysoedd.

Ar hyn o bryd, mae Mick yn AC ar y meinciau cefn a fe yw Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Chyfreithiol y Cynulliad.